P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y cynlluniau ar gyfer
ffordd osgoi heibio i bentrefi Pant a Llanymynech, sydd ar y ffin
rhwng Cymru a Lloegr. Bydd 15,000 o geir a lorïau yn gyrru
trwy’r ddau bentref bob dydd, a bydd y nifer hwn yn
siŵr
o gynyddu unwaith y rhoddir caniatâd
i’r
ffermydd gwynt. Rydym yn galw ar y llywodraeth yn awr i fwrw
ymlaen â’i
chynlluniau, neu i ddechrau cynnal trafodaethau am y ffordd osgoi o
leiaf, a chynnal dadl lawn yn ei chylch, gan wrando ar lais ein
cymuned ynghylch ein hanghenion a sut y mae’r ffordd hon yn
effeithio arnom ni ac ar ein bywydau. O wneud hyn, gobeithio y bydd
y llywodraeth yn Lloegr yn cymryd sylw o’r drafodaeth ac yn
bwrw ymlaen â chynlluniau ar eu hochr hwy i’r ffin. Ein
dymuniad yw y bydd dadl lawn ac agored yn cael ei chynnal ar yr
angen am ffordd osgoi i bentrefi Pant a Llanymynech, a fydd wedyn
yn arwain at adeiladu’r ffordd osgoi pan fydd arian ar
gael.
Rydym
wedi cael llond bol ar y sŵn,
y llygredd, a’r
ffaith na allwn gerdded gyda’n
plant i’r
ysgol, cerdded i’r
siopau, na mynd a’n
cŵn
am dro ar hyd y ffordd. Ni fydd gwelliannau fel lledu’r
ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y ffordd i ddechrau fel ffordd
un lôn ar gyfer ceffylau a cherti. Mae llawer o’r tai
ar y ddwy ochr yn agos iawn at y ffordd, ac mae nifer o lonydd yn
ymuno â’r A483, sydd hefyd yn gwneud y ffordd yn
anaddas i’w gwella. Teimlwn mai adeiladu ffordd osgoi
yw’r unig ateb, a throi’r ffordd o Lynclys (sy’n
hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant a Llanymynech a’i
chysylltu â’r ffordd osgoi newydd ger Llandysilio. Hon
yw’r brif gefnffordd rhwng Manceinion ac Abertawe, ac nid
yw’n addas i’w diben. Mae llawer o Aelodau Seneddol ac
Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch ac rydym yn
benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn cael ei
chynnal ar y mater hwn yn y Cynulliad.
Cyflwynwyd
y ddeiseb gan: Duncan
Borthwick
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Mai 2012
Nifer y llofnodion: 84